Amdanom / About us

cropped-kmcatalan1.jpgY Cefndir

Mewn siop lyfrau fach oddi ar y Gran Via yn Barcelona llynnedd, daethpwyd ar draws llyfyr bach i blant a wnaeth godi ysbryd a tanio syniad. ‘El Capital de Karl Marx’ oedd y llyfyr – syniad gwych sy’n cyflwyno, trwy stori syml iawn, theori economaidd Karl Marx….i blant!

Y Cynllun

Ar ôl trafod gyda ffrindiau, penderfynom fynd ati i gyfieithu’r stori yma i’r Gymraeg, er mwyn i blant bach Cymru cael yr un cyfle a phlant Catalonia, sef dod i nabod tadcu hoffus y stori, Karl Marx. Ar ôl trafodaethau gyda’r cyhoeddwyr yn Barcelona, Edicions els Llums, rydym wedi cael hawlfraint i gyfieithu’r stori i’r Gymraeg.

Dim ond 500 o gopïau cafwyd eu hargraffu – felly brysiwch gyda’ch archeb!

Pam?

Nid menter gwneud arain yw hon. Rydym am gyflwyno llyfyr sydd yn dod ag ychydig o hwyl i fywyd plant Cymru, tra hefyd yn cwestiynnu egwyddorion y system gyfalafol. Ni fydd elw personol yn dod o’r prosiect hwn. Nid hynny yw’r pwynt. Bydd unrhyw elw a ddaw o werthiant y llyfrau yn cael ei fuddsoddi mewn i prosiect creadigol o’r un ysbryd a’r prosiect yma (cysylltwch os am rhannu unrhyw syniad/au fyddai angen cyllid sbarduno!), neu ei rhannu ymysg mudiadau sydd yn gweithio tuag at hawliau, budd diwylliannol, ieithyddol ac addysg wleidyddol y Cymry. Os ydych am awgrymu unrhyw gorff neu fudiad sydd yn deilwng ac angen cymorth, neu os eich bod â phrosiect personol ac angen cefnogaeth – cysylltwch!

Advertisements

4 comments

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s